Adnoddau newydd i gefnogi eich plant wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol

Mae’r cyfnod o gyfyngiadau symud wedi bod yn gyfnod anodd i lawer o’n teuluoedd mabwysiadol, gyda llawer o rieni’n gorfod gweithio gartref, tra’n diddanu eu plant a’u haddysgu gartref.

Yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y gall ysgolion ddychwelyd yng Nghymru o 29 Mehefin ymlaen, mae gan rieni benderfyniad anodd nawr, sef a ydynt am anfon eu plant yn ôl i’r ysgol ai peidio. Efallai y bydd rhai rhieni yn ystyried hyn yn gyfle i ddefnyddio’r wythnosau nesaf i ddechrau nôl yn yr ysgol yn araf ac ymgyfarwyddo â’r drefn newydd sy’n eu disgwyl yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r gweithwyr cymorth mabwysiadu wedi bod yn brysur yn creu adnoddau gwych i gefnogi rhieni gyda’r pontio hwn yn ôl i’r ysgol.

Mae Rachel, un o’n gweithwyr cymorth, hefyd wedi creu stori sy’n ceisio helpu plant i ddeall y newidiadau y byddant yn eu hwynebu yn yr ysgol. Y gobaith yw y byddant yn gallu uniaethu â phryderon Dewi’r Diogyn, gan eu galluogi i ddeall y cyfnod o ddychwelyd i’r ysgol.

Dyma beth oedd gan Rachel i’w ddweud: “Dwi wastad wedi mwynhau bod yn greadigol ac wedi breuddwydio am ysgrifennu storïau byrion i blant a’u darlunio ers tro. Ni ddychmygais erioed y byddai’r stori gyntaf y byddwn yn ei hysgrifennu yn ymwneud â phandemig, ond mewn cyfnod o gymaint o newid ac ansicrwydd cefais fy hun yn meddwl am y nifer mawr o blant rwyf wedi’u cefnogi drwy gyfnodau pontio dros y blynyddoedd a pha mor heriol y byddai hyn i gynifer ohonynt.

Yn aml, mae newid yn her fawr i blant, ac yn sgil y newidiadau sy’n ein hwynebu wrth i ni ddechrau dychwelyd i’r ysgol, efallai y daw cymysgedd o emosiynau a theimladau. Mae storïau yn ffordd naturiol i blant ddysgu am eu teimladau, i’w helpu i ddysgu bod llawer o bobl yn wynebu eu profiadau o deimlo’n bryderus neu’n nerfus am ddychwelyd i’r ysgol. Mae’r stori hon yn canolbwyntio ar y cyfarwydd, yn enwedig o ran perthnasoedd, gan fod teimladau o bryder yn dod o’r anhysbys weithiau, ac er nad ydym efallai yn gwybod popeth am sut olwg fydd ar ysgolion yn y misoedd nesaf, drwy feddwl am rai o’r pethau fydd yn aros yr un peth, gallwn helpu ein plant i deimlo’n fwy diogel.“

 

Gallwch lawrlwytho copi o Dewi’r Diogyn. Anfonwch e-bost i ymholiadaumabwysiadu@sirgar.gov.uk i gael copïau o’r adnoddau eraill sydd ar gael i helpu wrth ddychwelyd i’r ysgol.

Bydd rhagor o adnoddau ar gael ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Facebook: @adoptmwwales Twitter: @adoptmw_wales