Gwaith newid bywydau’r Gwasanaeth Mabwysiadu’n parhau trwy bandemig y Covid-19

Adopted child holding crayons

Mae gwaith hanfodol o baru plant â’u teuluoedd am byth newydd ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru’n parhau ar waethaf haint y COVID-19.

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru – y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol ar gyfer awdurdodau lleol Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys – yn aros ar agor gyda staff yn gweithio o bell, yn cynnal ymweliadau trwy Microsoft Teams, Skype neu dros y ffôn.

Mae rhai ymweliadau hanfodol yn parhau, gan gadw at y rheolau pellter cymdeithasol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Gwasanaeth yn dal i chwilio am fabwysiadwyr newydd i sicrhau nad oes oedi cyn gosod plant gyda theuluoedd.

Cafwyd y nifer uchaf o ymholiadau ynghylch mabwysiadu ers cryn amser a daeth llawer i’n noswaith hysbysrwydd ar-lein yn ddiweddar gyda 13 o barau, (dau ohonynt mewn perthynas o’r un rhyw), a phedwar o ymholwyr sengl.

Mae’r Panel wedi wynebu ac addasu i her dal i gyfarfod o bell ac yn rheolaidd.

Mae’r Panel wedi cymeradwyo nifer o fabwysiadwyr newydd ac fe argymhellwyd rhagor o deuluoedd newydd gyda phlant cyfatebol, ers cyflwyno’r neges aros gartref.

Mae asesiadau’n parhau, gyda gweithwyr cymdeithasol mabwysiadu’n cyfarfod darpar fabwysiadwyr o bell i gael eu cymeradwyo cyn bo hir.

Meddai’r Cynghorydd Reg Owens, Aelod o’r Panel Mabwysiadu o Gyngor Sir Penfro: “Mae sefyllfa’r COVID-19 wedi golygu bod pawb sy’n ymwneud â’r broses fabwysiadu wedi gorfod addasu ac ymateb i heriau gweithio o bell a, lle nad oes modd gwneud hynny, dilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol a diogelu eraill.

“Rwyf wedi cael fy nharo’n fawr gan sut mae’r timau wedi torchi eu llewys a gweithio mor galed i weld bod y mesurau angenrheidiol yn bodoli i sicrhau na fu unrhyw oediadau gormodol mewn penderfyniadau sy’n newid bywydau pawb dan sylw.

“Drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau mae hyn wedi sicrhau bod nifer o blant wedi cael cartrefi newydd am oes a bod mabwysiadwyr wedi cael plant y buont yn hiraethu amdanynt.

“Yn ôl pob tebyg, dyma fy nyletswydd fwyaf boddhaol fel Cynghorydd Sir ac rwy’n diolch i bawb dan sylw am eu holl waith yn yr amserau mwyaf anarferol hyn.”

I gynorthwyo mwy ar deuluoedd sy’n mabwysiadu, mae gweithwyr cymorth mabwysiadu wedi bod yn brysur yn creu adnoddau.

Mae nifer o gyrsiau hyfforddiant yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd, yn ogystal â modiwlau e-ddysgu newydd, gyda’r holl fanylion i’w cael ar wefan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Os ydych yn fabwysiadwr sydd angen cymorth ar y funud cofiwch ffonio 0300 3032 505 neu e-bostio adoptionenquiries@carmarthenshire.gov.uk

Mae’r Gwasanaeth hefyd ar Drydar @adoptmw_wales a’r dudalen Weplyfr sydd newydd ei lansio @adoptmwwales